Mae’r cynllun ysgolion iach mewn perthynas â Chyngor Gwynedd, Y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Datblygir meddylfryd potisif tuag at les plant, athrawon a’r gymuned drwy ddatblygu amgylchedd iach o fewn yr ysgol.
Y Cwricwlwm Cenedlaethol
Datblygu ethos o fewn thu allan i’r ysgol
Gweithio’n agos iawn gydag amryw o asiantaethau sy’n helpu nid yn unig yn yr ysgol, ond o fewn cartrefi hefyd.
Ers Medi 2024, bydd pob ysgol gynradd yng Ngwynedd yn cynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd.
Mae traean o beint o lefrith yn cael ei roi am ddim bob dydd i:
ddisgyblion o dan 5 oed
ddisgyblion Cyfnod Allweddol 1 (Menter Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
ddisgyblion ysgolion arbennig
unrhyw ddisgybl mewn ysgol gynradd sydd angen llefrith ar sail meddygol pan fo tystysgrif wedi’i chyflwyno gan y Swyddog Meddygol Ysgolion.
Mae cwpan, plât a dŵr yn cael eu darparu ar gyfer plant sy'n dymuno dod a'u bwyd eu hunain.