Rydym fel ysgol yn gefnogol o ymgyrch Llywodraeth Cymru i annog rhieni i ddarllen gyda'u plant am o leiaf 10 munud y dydd. Gall wneud gwahaniaeth mawr. Cymerwch gipolwg isod am syniadau ac awgrymiadau i helpu gyda'r darllen.
Mae cyd-ddarllen yn ardderchog ar gyfer adeiladu perthynas gref a chariadus gyda’ch plentyn.
Bydd trefn sefydlog rhannu straeon a rhigymau’n helpu eich plentyn i gyfathrebu a bydd yn cefnogi’u lles.
Mae plant sy’n darllen o oedran ifanc iawn yn gwneud yn well pan ân nhw i’r ysgol – bydd cyd-ddysgu rhigymau a straeon yn gadael iddyn nhw achub y blaen ar fywyd!
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod yr ysgol nawr yn defnyddio Darllen Co. Mae Darllen Co. yn llwyfan darllen Cymraeg ar gyfer ysgolion a theuluoedd yma yng Nghymru. Mae’n helpu i ddatblygu sgiliau darllen eich plentyn a hybu cariad at ddarllen yn yr ysgol, ac yn y cartref.
Mae’r llwyfan yn cynnwys nifer o lyfrau cyfoes a chyffrous gan awduron a darlunwyr gorau Cymru. Gyda phob llyfr mae llyfr llafar a chwis darllen i’r plant eu cwblhau er mwyn datblygu eu sgiliau darllen a deall. Yn ogystal â hynny, mae’r plant yn medru ennill bathodynnau darllen am eu hymdrech, olrhain eu hamser darllen a chwilio drwy’r llyfrau er mwyn darllen a gwrando er pleser. Mae athro/awes eich plentyn hefyd yn medru defnyddio'r wefan i weld sut hwyl mae eich plentyn yn ei chael arni.