Meddylfryd o Dwf

Ymennydd Gwyrdd a Meddylfryd o Dwf

Yn Ysgol Bro Lleu, rydym wedi ymchwilio i mewn i theori Carol Dweck ar ‘Meddylfryd o Dwf” ac wedi gwreiddio ei syniadau i’n hethos ysgol. Dyma ychydig o eiriau sy’n esbonio beth yw’r theori meddylfryd o dwf, a sut y gallwch chi ddatblygu eich ymennydd.

Un o’r pethau mwyaf diddorol sydd wedi digwydd ym myd Seicoleg dros y blynyddoedd diwethaf yw’r canfyddiadau am y ffordd rydym yn canmol ein plant. Mae canmol canlyniad yn lle ymdrech yn aneffeithiol, ac mewn sawl achlysur yn gallu cael effaith negyddol ar y plentyn.

Mae yna syniad syml yn bodoli, sef bod dau fath o feddylfryd. Fe allwch feddwl am nodweddion eich gallu yn sefydlog (FIXED MINDSET) neu fe allwch feddwl bod modd tyfu’r ymennydd a datblygu’r nodweddion sydd eisoes gennych (GROWTH MINDSET).

Pan rydych yn canmol plentyn drwy ddweud “Ti mor glyfar!” rydych, heb sylwi yn hybu nodweddion ymennydd COCH. Dyma natur y plentyn – y gallu. Ar y llaw arall, pe bai chi’n dweud “Waw, ti wedi gweithio’n galed gyda dy waith cartref Mathemateg a dal ati nes i chdi gael o’n gywir.” Rydych yn datblygu nodweddion ymennydd GWYRDD. Rydych yn dysgu’r plentyn os ydyn nhw’n parhau i drio a gweithio’n galed mi ddaw tyfiant a gwelliant.

Y broblem gydag ymennydd COCH ydi, pan mae pethau’n mynd yn anodd, mae’r plant sydd wedi bod yn perfformio’n dda yn mynd i deimlo yn fwy anniogel. “Dydw i ddim yn gwybod yr ateb felly dwi’n fethiant.” Gall hyn eu harwain i osgoi heriau.

Yn Ysgol Bro Lleu mae ein haddysgu dydd i ddydd yn hybu:

  • Canolbwyntio
  • Dychymyg
  • Gwaith caled
  • Gwella eich hun
  • Gwthio eich hun
  • Trio pethau newydd
  • Deall eich gilydd
  • Peidio rhoi ffidil yn y to

Dyma ychydig o glipiau fideo sy’n esbonio theori’r Meddylfryd o dwf.

yg.m4a