Dyma ffilm ardderchog gan ddisgyblion Llwyd y Coed a Nant y Fron. Yn dilyn gwaith yn y dosbarth ar y thema 'Byd nad yw'n bod' aethom ati i greu ffilm cyffrous am hen chwedl lleol. Mae'r ffilm 'Lle mae Lleu?' yn dod a stori Blodeuwedd, y stori sy'n rhoi ei enw i'n hysgol yn fyw mewn ffordd hollol ddychmygus a chyffrous. Dioch i'r arweinwyr creadigol Gwion Aled a Siwan Llynor.
Fel rhan o'n hastudiaeth am hanes Cymru, mae plant yn nosbarth Penyrorsedd wedi mynd ati i greu ffilm bwerus. Mae'r ffilm yn ein hatgoffa o'r drychineb ble cafodd pentref Capel Celyn ei foddi er mwyn creu cronfa ddwr ar gyfer gwasanaethu dinas Lerpwl. Diolch i Siwan Llynor am ei gwaith gyda'r plant.
Mae disgyblion Gallt-y-Fedw wedi bod yn dysgu am y gofod yn ystod y tymor. Fel rhan o Brosiect Ysgolion Creadigol, cafwyd cyfle i ddatblygu llawer o sgiliau a chreu llyfr a ffilm yn ymwneud a'r gofod. Profiad gwych i'r disgyblion sydd wedi magu hyder, datblygu sgiliau llafaredd a datblygu eu creadigrwydd hefyd! Diolch i'r arweinwyr creadigol Gwion Aled a Rhian Cadwaladr.