Cadeirydd – Mrs Elen Pritchard
Pennaeth – Mr Iwan Taylor
Athrawon – Mr Gareth Edwards
Staff ategol – Mrs Michelle Roberts
Clerc – Mrs Michelle Roberts
Is-Gadeirydd – Miss Sara Angharad Roberts
Cynrychiolwyr rhieni – Mr Alun Fôn Williams
Cynrychiolwyr yr Awdurdod Leol – Mr Ben Gregory, Cynghorydd Craig ab Iago
Cynrychiolydd y Gymuned – Mr Emlyn Jones
Tîm o bobl sy'n gweithio mewn cysylltiad agos â'r pennaeth i wneud penderfyniadau allweddol sy'n bwysig er mwyn rhedeg yr ysgol yn llwyddiannus yw llywodraethwyr ysgol. Y llywodraethwyr sy'n penodi'r pennaeth ac maent yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar addysg a lles y plant. Maent yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella safonau drwy'r ysgol ac yn cytuno ar gyllideb yr ysgol. Mewn geiriau eraill, mae'n rôl bwysig iawn!
Os yw'ch plentyn yn mynychu ysgol, gallwch gael eich ethol yn rhiant lywodraethwr gan y rhieni. Mae ysgolion yn trefnu'r etholiadau hyn, ac yn rhoi gwybod amdanynt i'r rhieni a'r staff. Gallwch hefyd ddod yn llywodraethwr drwy gysylltu â'r ysgol er mwyn gweld a fyddent yn fodlon eich cyfethol neu drwy ofyn i'r awdurdod lleol, yr eglwys neu sefydliad a fyddent yn eich penodi.
Fel rhiant lywodraethwr, gallwch wneud cyfraniad gwerthfawr i'r gwaith o redeg yr ysgol. Byddwch yn gallu cynnig eich brwdfrydedd a'ch ymroddiad ac fel rhiant, byddwch yn deall pryderon rhieni eraill. Gall llywodraethwyr sydd â phrofiad o fusnes neu reolaeth, neu lu o sgiliau eraill, hefyd gynnig arbenigedd defnyddiol iawn i'r ysgol.
Gall bod yn llywodraethwr ysgol fod yn brofiad sy'n rhoi llawer iawn o foddhad. Byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella addysg y plant a chefnogi staff yr ysgol, ac mae rhoi llawer i'r ysgol a'r gymuned fel arfer yn golygu y byddwch yn cael llawer yn ôl. Mae bod yn llywodraethwr hefyd yn gyfle i ddatblygu sgiliau newydd neu ymarfer rhai sydd gennych yn barod a all eich helpu yn eich swydd o ddydd i ddydd, fel cadeirio cyfarfodydd, cynnig awgrymiadau a gofyn y cwestiynau iawn, siarad yn gyhoeddus, penodi staff, a helpu aelodau eraill sy'n newydd i'r gwaith neu sydd â llai o brofiad o waith pwyllgor.
Mae'r amser y mae llywodraethwyr yn gallu ei roi i'r rôl yn amrywio ond mae rhai pethau y mae'n rhaid iddynt allu eu gwneud, felly dylech fod yn ymwybodol o'r canlynol:
rhaid i'r corff llywodraethol gyfarfod o leiaf unwaith y tymor
mae'n debyg y disgwylir i lywodraethwyr wasanaethu ar o leiaf un pwyllgor a fydd yn cyfarfod yn amlach na hynny
cynhelir cyfarfodydd, ambell waith yn ystod y dydd, ond gan amlaf gyda'r nos
mae'n ofynnol i lywodraethwyr baratoi ar gyfer cyfarfodydd ac mae'n bosib y bydd llawer o bapurau i'w darllen
ni fydd person nad yw'n gallu paratoi ar gyfer cyfarfodydd a'u mynychu yn gallu gwneud cyfraniad effeithiol.
Os ydych yn meddwl y byddech yn hoffi cael mwy o wybodaeth am y pwnc, edrychwch ar rai o'r cysylltiadau gwe, a chysylltwch â'r ysgol.