Google yn Ysgol Bro Lleu

Rydym yn hynod falch o gael ein hadnabod fel ysgol Google. Cawsom yr achrediad yma ar ol yr holl waith arbennig sy'n digwydd yn yr ysgol yn gysylltiedig ag apiau Google.

Chromebooks

Rydym yma yn Ysgol Bro Lleu wedi buddsoddi llawer o arian dros y blynyddoedd diwethaf i gael chromebooks i'r ysgol. Mae defnydd effeithiol o'r dyfeisiau yma yn golygu fod dosbarth cyfan o ddisgyblion yn gallu gweithio ar yr un pryd yn yr ystafell ddosbarth i gynhyrchu amrywiaeth eang o waith mewn modd creadigol a ddiddorol.

Google Classroom

Mae’n bosib cael mynediad i’r rhaglen yma o unrhyw ddyfais megis cyfrifiadur, gliniadur, tabled neu ffon symudol sydd gyda chyswllt i’r we. Mae gan bob disgybl e-bost a chyfrinair ysgol ‘......@ysgolbrolleu.co.uk’ i fewngofnodi.

Yn Google Classroom, mae'n bosib gosod tasgau i’r plant yn ddigidol - dim argraffu na thaflenni gwaith. Gall y plant wedyn gwblhau’r tasgau yn yr ysgol (neu adref os nad ydynt cweit yn gorffen ambell i beth). Gall y plant glicio botwm ‘submit’ i yrru’r gwaith i'r athro, a gall yr athro yrru’r gwaith yn ôl iddyn nhw gyda sylwadau, newidiadau ac awgrymiadau i wella.

Dyma'r 11 prif ap Google sy'n cael ei ddefnyddio gan disgyblion Ysgol Bro Lleu.