Siarter Iaith

Sgwad Siarter Iaith

Beth yw'r Siarter Iaith?

Mae Siarter Iaith yn gynllun er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn ysgolion cynradd Cymru a hefyd mewn sefyllfaoedd cymdeithasol tu allan i'r ysgol. Uchelgais y Cynulliad yw cael mwy o’r boblogaeth i siarad Cymraeg.


Yn ddiweddar, maent wedi cyflwyno dau gymeriad newydd 'Seren a Sbarc'. Bydd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 4 a 7 oed i ddefnyddio’r iaith ar yr iard, yn y cartref ac yn y dosbarth.


Fel rhan o'r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o'r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae'r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach.


Mae cyfathrebu yn rhan bwysig o fywyd cyfoes - mae tyfu fyny yn ddwyieithog yn golygu bydd plant yn datblygu sgiliau bywyd.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud?

Meilir

Bl.6

Olwen

Bl.5

Molly

Bl.4

Dion

Bl.3

Rory

Bl.2

Ein targedau eleni yw:

  • Parhau i siarad Cymraeg o fewn yr ysgol a thu allan i dir yr ysgol.

  • Gwylio rhaglenni Cymraeg ar y teledu adref ac amser chware gwlyb yn yr ysgol.

  • Gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg yn yr ysgol ac adref.

  • Defnyddio apiau a gwefannau Cymraeg.

  • Dysgu'r anthem genedlaethol o'r cof.

Oeddech chi'n gwybod?


Mae 65% o bobl Gwynedd yn siarad Cymraeg a Saesneg.


Mae tua thri chwarter o bobl y byd yn siarad dwy iaith neu fwy!


Cymraeg yw un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop sy’n dal i gael ei siarad.

Manteision Addysgol

  • Mae ymchwil academaidd yn cadarnhau fod plant dwyieithog yn fwy creadigol, ac yn cael canlyniadau gwell mewn profion IQ na phlant sy'n siarad un iaith yn unig.

  • Mae plant dwyieithog yn tueddu ymdopi’n well o ran gweithio dan bwysau.

  • Mae plant dwyieithog yn ei gweld i’n haws dysgu ieithoedd ychwanegol.

Manteision Ddiwylliannol

  • Yn hanes, yn gerddoriaeth, llyfrau neu fyd teledu - mae gan blentyn dwyieithog fwy o ddewis.

  • Dwy iaith, dwy ffenest ar y byd!

Manteision Cymdeithasol

  • Mae siarad mwy nag un iaith yn cynnig dewis ehangach o weithgareddau cymdeithasol ac yn ehangu gorwelion. Dwy iaith, dwywaith y dewis!

  • Mae’r Gymraeg yn magu perthynas agosach â hanes, treftadaeth a thraddodiadau Cymru.

  • Rydych chi o fewn cyrraedd uniongyrchol o ddywediadau, idiomau, cerddoriaeth, barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg sy’n cael eu dathlu a’u parchu ledled y byd.

Manteision Economaidd

  • Mae pobl ddwyieithog yng Nghymru yn ennill rhwng 8% a 10% yn fwy mewn cyflog bob blwyddyn o’i gymharu â phobl sy’n siarad un iaith yn unig.

  • Mae siarad dwy iaith yn cynnig rhagor o gyfleoedd cyflogaeth i chi - bydd gennych chi sgil ychwanegol ar eich CV, sy’n rhoi ‘gwerth’ a mantais gystadleuol i chi yn nhermau busnes