Mae gan bob aelod o staff yr ysgol ddyletswydd i warchod lles a diogelwch y plant. Mae bob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant Amddiffyn Plant, ac wedi derbyn hyfforddiant ar Radicaleiddio. Mae’r Pennaeth, Dirprwy a’r Llywodraethwraig dynodedig wedi derbyn hyfforddiant Amddiffyn Plant ymestynnol.
Pe bai gennych amheuon am ddiogelwch neu lles plant yn yr ysgol neu adref soniwch i’r Pennaeth Mr Iwan Taylor, neu Mr Mr Williams.
Mae’n rhaid i’r ysgol ymateb i unrhyw wybodaeth am les/amddiffyn plant. Rydym yn dilyn polisiau caeth yr Awdurdod wrth wneud hyn.
Pe bai chi’n amau aelod o staff o faterion amddiffyn plant mae’n angenrheidiol i chi gysylltu hefo’r Pennaeth ar unwaith.
Cysylltwch hefo Cadeirydd y Llywodraethwyr Mrs Elen Pritchard pe bai chi’n amau’r Pennaeth o unrhyw agwedd amddiffyn plant.