Dull newydd o gefnogi athrawon i wella arferion drwy’r ddefnydd o gamerau fideo.
Hunan asesu – hefo fideo fe all athrawon edrych yn ôl ar eu gwersi ac hunan asesu cryfderau/gwendidau heb boeni am arfarniad swyddogol gan yr ysgol.
Hunan asesu cydweithwyr – mae ffilmio gwersi yn galluogi i athrawon rhannu arferion da a thrafod gyda’u cydweithwyr ar sut i wella, mewn sefyllfa di-fygythiol.
Llai o bwysau – mae ffilmio’r wers yn golygu nid oes rhaid i aelod o’r Tim Rheoli fod yn bresennol. Mae hyn yn tynnu’r pwysau oddi ar athrawon, ac yn rhoi gwell syniad o sut mae’r dosbarth a’r addysgu o ddydd i ddydd.
Datblygiad parhaus – mae’r athrawon yn adlewyrchu mwy ar addysgu eu hunain. Yn lle dibynnu ar farn un person. Mae’r sgyrsiau yn dilyn arsylwadau wedi ffocysu mwy ac mae’r athrawon yn cael gwell adborth.
Mae IRIS Connect yn system ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Felly mae holl staff yr ysgol yn ymwybodol o sut i ddefnyddio’r system ac i ba bwrpas.
Byddwn yn cysidro ceisiadau gan athrawon i ddefnyddio’r system ar gyfer amryw o wahanol bwrpasau.
Ond caiff y cais ond ei gymerdrwyo os yw’n dangos sut y bydd yn gwella’r dysgu/addysgu.