Cyrsiau Rhiantu Blynyddoedd Rhyfeddol Webster Stratton

Cyrsiau Rhiantu

Rydym wedi cynnal cyrsiau rhiantu llwyddiannus ers 9 mlynedd bellach. Mae’r hyfforddiant 10 wythnos yn cael ei chynnal mewn lleoliad niwtral, tu allan i’r ysgol ac yn cael ei gyflwyno gan athrawon profiadol sydd wedi derbyn hyfforddiant ar strategaethau Webster Stratton. Yn ystod yr hyfforddiant cewch ddysgu amryw o dechnegau (hen) a newydd, sydd hefo hanes o weithio’n effeithiol.

Mae’r cwrs yn agored i bob rhiant (nid yn unig ar gyfer y rhai sy’n cael trafferthion gyda’u plant). Mae pawb yn elwa o’r cwrs – hyd yn oed yr Athrawon.

Croeso i chi gyflawni’r cwrs ar fwy nag un achlysur, gan fod anghenion plant yn newid wrth iddynt tyfu i fyny.


Cliciwch logo 'The Incredible Years' i ddysgu mwy.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu eisiau mynychu hyfforddiant cysylltwch hefo’r ysgol.