Lwfans Cymorth a Chyflogaeth (sail incwm)
Cymhorthdal Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
Credyd Treth Plentyn (gydag incwm trethadwy blynyddol o ddim mwy na £16,190)
Credyd Pensiwn (Gwarant)
Cymorth o dan Deddf Lloches a Mewnfudo 1999
Credyd Cynhwysol ar yr amod bod gan yr aelwyd incwm a enillir net blynyddol o ddim mwy na £7,400
Fydd teuluoedd sy'n derbyn Credyd Treth Gwaith ddim yn cael cinio am ddim, hyd yn oed os yw eu hincwm trethadwy blynyddol o dan £16,190.
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu ostyngiad Treth Cyngor gan Gyngor Gwynedd, nid oes rhaid cwblhau ffurflen gais am ginio ysgol am ddim, byddwn yn asesu eich hawl yn awtomatig.